Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Hydref 2015

 

 


Amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb ar gyfer 2016 – 2017

1.     Ar 7 Gorffennaf 2015, ysgrifennodd Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth at y Pwyllgor Busnes yn cynnig dyddiadau ar gyfer cyhoeddi cyllideb ddrafft 2016-17, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2. Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch pryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi’i Hadolygiad o Wariant, dywedodd y Gweinidog y gallai’r amserlen newid.

2.    Ar 29 Medi 2015, diwygiodd y Gweinidog ei hamserlen arfaethedig ac, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y dyddiad y dylai’r Pwyllgor Cyllid adrodd ar y Gyllideb Ddrafft.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, mae’r Pwyllgor Busnes wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid ac wedi llunio’r amserlen a ganlyn ar gyfer ystyried y gyllideb ar gyfer 2016 – 2017:

 

Dyddiad

 

Cyllideb ddrafft y Llywodraeth yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad

 

8 Rhagfyr 2015

Y dyddiad cau i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth

 

2 Chwefror 2016

Y cynnig cyllideb blynyddol yn cael ei gyflwyno

 

1 Mawrth 2016